Gorymdaith er cof am arwr brwydr Rorke's Drift

  • Cyhoeddwyd
John Williams
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth John Williams ymuno â'r South Wales Borderers yn 1877

Bydd gorymdaith yn cael ei gynnal yn Nhorfaen dydd Sadwrn er cof am filwr gafodd ei anrhydeddu gyda'r Groes Fictoraidd am ei ran ym mrwydr Rorke's Drift yn Ne Affrica.

Roedd John Williams, o Gwmbrân, yn un o 11 o gafodd eu hanrhydeddu wedi'r frwydr ar 23 Ionawr, 1879.

Bydd ffyrdd yn cael eu cau am gyfnod byr ddydd Sadwrn ar gyfer yr orymdaith flynyddol yn ardal Llantarnam, Cwmbrân, i'r fan lle cafodd carreg fedd ei chodi er cof am y milwr yn 2013.

Ym mrwydr Rork's Drift, llwyddodd tua 150 o filwyr Prydeinig i wrthsefyll ymosodiad gan 4,000 o Zulus.