Y Cynulliad i 'ymyrryd yn y setliad datganoli'
- Published
Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn hyderus bydd y Cynulliad yn gwrthod ymgais Llywodraeth y DU i newid y gyfraith ar undebau Llafur.
Cyn pleidlais yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews wrth raglen Sunday Politics Wales bod y Mesur Undebau Llafur yn "ymyrryd yn y setliad datganoli".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod y ddeddfwriaeth yn ymwneud â hawliau cyflogaeth ac nad yw'r mater wedi ei ddatganoli felly.
Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y gallai'r ffrae orfod cael ei datrys yn Goruchel Lys.
Mae'r Mesur Undebau Llafur yn gosod rheolau newydd ar gyfer gweithredu diwydiannol, gan gynnwys dweud bod yn rhaid i 40% o'r rheiny sy'n gymwys i bleidleisio gefnogi streic mewn meysydd allweddol fel addysg ac iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r mesur yn gryf ac yn dadlau ei fod yn ymwneud â meysydd sy'n rhan o'u cyfrifoldebau nhw.
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio ddydd Mawrth ar roi sêl bendith ar gymal fydd yn rhoi'r hawl i'r Senedd yn San Steffan i ddeddfu ar faterion yn y mesur sydd wedi eu datganoli.
Mae disgwyl i'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn y cymal.
Dywedodd Mr Andrews bod y mesur yn "creu problemau ar gyfer y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru".
"Dy'n ni'n gwrthwynebu'r bil," meddai. "Dy'n ni'n disgwyl i'r Cynulliad bleidleisio yn erbyn y bil."
Goruchel Lys
Ategodd Mr Andrews eiriau Carwyn Jones yn gynharach yn yr wythnos a dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad i ddileu'r diwygiadau os yw'r mesur yn cael ei gymeradwyo yn San Steffan.
Fe allai hynny olygu bod y mater yn mynd i'r Goruchel Lys yn y pendraw, meddai, er ei fod yn gobeithio y byddai'n cael ei ddatrys cyn hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: "Mae'r diwygiadau yma yn cydbwyso'n deg yr hawl i streicio gyda hawliau miliynau o bobol i fyw a gweithio heb rwystr.
"Mae'r Mesur Undebau Llafur yn ymwneud â hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a pherthynas gweithwyr â'u cyflogwyr, sy'n faterion y mae Llywodraeth Prydain yn gyfrifol amdanyn nhw fel rhan o'r setliad datganoli."