Troseddau rhyw: Pum mlynedd o garchar i ddyn o Gaergybi
- Cyhoeddwyd

Gweiddi yn y llys: Andrew Jenkins
Mae dyn o Gaergybi wedi ei garcharu am bum mlynedd a thri mis oherwydd troseddau rhyw yn erbyn dwy ferch yn eu harddegau.
Cafodd Andrew Jenkins, 25 oed, ei ddedfrydu yn ei absenoldeb wedi iddo weiddi yn Llys y Goron Caernarfon.
Hefyd cafodd y diffynnydd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Roedd wedi pledio'n euog i naw cyhuddiad yn ymwneud â throseddau rhyw.
Clywodd y llys fod y ddwy ferch yn 14 a 15 oed a phan ddechreuodd yr erlyniad gyflwyno eu dadleuon dechreuodd y diffynnydd weiddi.
Dywedodd y Barnwr Harris-Jenkins: "Ewch lawr i'r celloedd ac mi wnaf eich dedfrydu yn eich absenoldeb."
Yn ddiweddarach dywedodd yr heddlu bod y troseddau yn "ofnadwy" a chanmolodd ddewrder y ddwy oedd wedi cysylltu â'r heddlu.