Gwaith adeiladu tai cyngor i ddechrau yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Bydd tai ar stryd fawr Cei Connah yn cael eu dymchwel
Bydd gwaith o adeiladu'r tai cyngor newydd cyntaf yn Sir y Fflint ers dros 20 mlynedd yn dechrau fis nesaf.
Mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu 200 o dai cyngor a 300 o dai fforddiadwy.
Bydd y cyntaf yn cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Gynradd Cae'r Nant yng Nghei Connah.
Mae'r cyngor wedi gofyn i arbenigwyr i ddylunio cynigion ar gyfer y safleoedd, a bydd y gwaith yn dechrau fis nesaf wedi i waith dymchwel gael ei gwblhau.