Tân Ysgol Coed Efa: Ras elusennol i godi arian
- Cyhoeddwyd

Yr athletwr Jamie Baulch oedd yn dechrau'r ras yn Stadiwm Cwmbrân
Fe wnaeth athletwr Jamie Baulch ymuno â thrigolion Torfaen ddydd Sul mewn ras i godi arian ar gyfer ei hen ysgol gafodd ei ddifrodi gan dân.
Fe ddechreuodd y tân yn Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân yn oriau man y bore ar Ddydd Calan.
Mae'r mwyafrif o'r disgyblion bellach wedi dychwelyd, a bydd plant y feithrinfa yn ailddechrau ddydd Llun mewn dosbarthiadau dros dro.
Mae saith o bobl wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Roedd cannoedd o bobl, yn cynnwys staff a rhieni, yn cymryd rhan yn y ras 5 cilometr oedd dechrau yn Stadiwm Cwmbrân am 10:30.
Mae dros £4,000 eisoes wedi'i godi ar gyfer yr ysgol, ond dywedodd y cyngor y gallai gymryd hyd at ddwy flynedd i'w ailadeiladu.
Ffynhonnell y llun, Guto Orwig
Cafodd feithrinfa Ysgol Gynradd Coed Efa ei ddinistrio yn y tân
Straeon perthnasol
- 1 Ionawr 2016
- 22 Ionawr 2016