Babi'n ailddarganfod ei choesau wedi problem gyda'i chlun
- Cyhoeddwyd

Mae babi saith mis oed o Abertawe yn ailddarganfod ei choesau ar ôl eu cael mewn plastr am hanner ei bywyd oherwydd problem gyda'i chlun.
Wedi i staff yn Ysbyty Singleton ddarganfod problem gyda chlun chwith Ruby Davies, cafodd ddiagnosis o ddysplasia ar ei chlun.
Cafodd Ruby, o Dreboeth, ei rhoi mewn plastr o'i chanol i'w phengliniau i ymestyn ei choesau am dros dri mis.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar tua un o bob 500 o blant.
"Roedd hi'n anodd ar y dechrau," meddai mam Ruby, Tara.
"Doedd hi ddim yn gallu gwisgo dim o'r dillad oedden ni wedi ei brynu, roedd rhaid i ni newid ei choetsh ac er bod gennym ni dair sedd ar gyfer y car, bu'n rhaid i ni rentu un gan elusen dysplasia yn y diwedd."
Dywedodd Tara bod Ruby wedi dechrau gwneud y mwyaf o'i rhyddid newydd yn syth.
"Mae hi'n dod ymlaen yn dda," meddai. "Does dim yn ei dal hi 'nôl."