Y Seintiau Newydd yn derbyn gorchymyn dirwyn i ben

Y Seintiau Newydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd wedi derbyn gorchymyn dirwyn i ben.

Mae'r clwb o Groesoswallt yn ymddangos ar restr dirwyn i ben fydd yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Llun.

Ond mae'r Seintiau Newydd yn dweud nad ydyn nhw'n gwybod dim am y gorchymyn.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Does neb yn y clwb wedi eu gwneud yn ymwybodol o hyn a ry'n ni wedi ein synnu gan y newyddion."

Mae'r Seintiau ar gopa'r Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, ac yn wynebu Dinbych yn rownd derfynol Cwpan Word ddydd Sadwrn.