Wrecsam 3-1 Lincoln
- Published
image copyrightGetty Images
Fe sicrhaodd Wrecsam eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm yn y Gynghrair Genedlaethol, a hynny wedi iddyn nhw fod ar ei hôl hi ar ddechrau'r hanner cynta'.
Fe roddodd prif sgoriwr Lincoln, Matt Rhead, yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic o'r smotyn wedi i olwr Wrecsam, Rhys Taylor droseddu.
Llwyddodd Wes York i ddod a'r dreigiau yn gyfartal cyn yr hanner amser gyda pheniad wedi croesiad gan Connor Jennings.
Daeth ail gôl Wrecsam yn yr ail hanner gan Jennings, cyn i Simon Heslop sicrhau buddugoliaeth gyntaf Wrecsam yn 2016.
Mae tîm Gary Mills, bellach yn y 10fed safle yn y tabl, a dim ond chwe phwynt o safleoedd y gemau ail-gyfle.