Ffeinal Cwpan Word: Dinbych 0-2 Y Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd
pel-droed

Nid dyma ymddangosiad cyntaf Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Word, ond ychydig iawn o gefnogwyr pêl-droed fyddai wedi darogan ar ddechrau'r tymor mai Dinbych fyddai un o'r timau i chwarae ynddi.

Fe ddechreuodd pethau yn addawol i'r tîm sydd fel arfer yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, yr ail reng ar byramid pêl-droed Cymru, ond Y Seintiau Newydd oedd yn rheoli'r gêm o'r munud cyntaf.

Matty Williams roddodd Y Seintiau ar y blaen, 25 munud i mewn i'r hanner cyntaf, gyda pheniad gwych o groesiad gan Chris Marriott.

Er i Ddinbych bwyso yn galed ar ddechrau'r ail hanner, fe ddaeth y gôl i'r Seintiau gyda pheniad arall, ond gan Michael Wilde y tro hwn.

O gofio bod Dinbych wedi llwyddo i guro tri o dimau Uwch Gynghrair Cymru er mwyn cyrraedd y rownd derfynol, a nhw yw'r tîm cyntaf erioed o du allan i UGC i gyrraedd y ffeinal, ond roedd Y Seintiau Newydd yn ormod o her i fechgyn Gareth Thomas yn Llandudno brynhawn Sadwrn.

Mae Cwpan Word, felly, yn mynd yn ôl i'r union le yr aeth hi flwyddyn ddiwethaf.