Tân mewn tŷ yn Abertawe: Dynes 73 oed wedi marw
- Published
image copyrightGoogle
Mae dynes 73 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe.
Mae dyn 74 oed hefyd yn yr ysbyty wedi'r tân mewn tŷ unllawr yn Waltham Close yn Nhreforys.
Dywedodd y gwasanaethau brys bod y tân wedi ei gyfyngu i lolfa'r tŷ, ddechreuodd am 19:50 ddydd Sadwrn.
Mae ymchwiliad i achos y digwyddiad wedi ei lansio ar y cyd rhwng Heddlu'r De a'r gwasanaeth tân.
Mae'r llu wedi gofyn i unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw ar 101.