Pryder am gynllun cofeb rhyfel yn Llantrisant
- Published
Mae cynlluniau i adeiladu ac ariannu cofeb rhyfel i filwyr tref yn Rhondda Cynon Taf gam yn nes, ond mae rhai cefnogwyr wedi beirniadu ei leoliad.
Fe wnaeth trigolion Llantrisant sefydlu pwyllgor yn 2009 i wireddu eu huchelgais o sefydlu'r gofeb.
Ond mae cais i roi'r gofeb yn y sgwâr yn "hen" Llantrisant wedi arwain at rai i ddweud bod y safle yn rhy brysur, gyda safleoedd eraill wedi eu hawgrymu.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor bod nifer o bobl eisiau gweld y gofeb yng nghanol y dref.
Yn ôl y Cynghorydd Glynne Holmes, y prif reswm y cafodd y safle yn y sgwâr ei ddewis yw y byddai llawer o bobl yn pasio heibio iddo a'i weld yno.
Dywedodd haneswyr lleol nad yw'r dref a'r pentrefi cyfagos erioed wedi cael cofeb i'r rhai a gollwyd mewn rhyfeloedd, er bod plac yn yr eglwys yn dangos rhai o'r enwau.
Mae deiseb ar lein wedi'i sefydlu sy'n gwrthwynebu'r safle ar y sgwâr.
Dywedodd y cyngor nad ydyn nhw wedi gwneud penderfyniad terfynol ar y cynlluniau.