Media Wales yn ymddiheuro am 'sarhau' y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni newyddiadurol Media Wales wedi ymddiheuro am y "sarhad anfwriadol gafodd ei achosi" wedi i erthygl awgrymu bod y seren rygbi, Jamie Roberts wedi llwyddo'n academaidd er gwaetha'r ffaith iddo dderbyn addysg Gymraeg.
Mewn erthygl wnaeth ymddangos ym mhapur newydd y Western Mail ac ar wefan Wales Online - sy'n cael eu cyhoeddi gan Media Wales - mae cyflwynwyr Lucy a Rhodri Owen yn trafod eu penbleth wrth iddyn nhw ystyried gyrru eu plentyn i ysgol Gymraeg neu ysgol Saesneg.
Roedd yr erthygl yn rhagflas ar gyfer rhaglen 'Welsh or English? Lucy Owen's Big School Dilemma', fydd yn cael ei dangos ar BBC One Wales nos Lun.
Fel rhan o'r rhaglen, mae Lucy yn teithio i Gaergrawnt i sgwrsio â seren rygbi Cymru, Jamie Roberts.
Cafodd ei addysg yn Gymraeg yn Ysgol Gynradd y Wern yn Llanisien ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd, cyn graddio fel doctor ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2013.
Ar hyn o bryd, mae'n astudio cwrs meistr ym Mhrifysgol Caergrawnt wrth chwarae dros glwb Harlequins yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Ond cafodd Media Wales ei feirniadu am ddefnyddio'r gair "despite" yn y darn, gan awgrymu bod y seren rygbi wedi llwyddo yn academaidd, er gwaetha'r ffaith iddo dderbyn ei addysg yn Gymraeg hyd at iddo droi'n 18 oed.
Ymddiheuriad
Mewn datganiad ar waelod y fersiwn ar-lein o'r erthygl, dywedodd Media Wales: "Rydym yn ymddiheuro, wrth gwrs, am sarhad anfwriadol gafodd ei achosi gan y defnydd o'r gair 'despite' yn fersiwn y Western Mail o'r erthygl hon ac mewn fersiwn gynharach ar-lein.
"Cyd-destun y darn yw ystyried manteision addysg Gymraeg, rhywbeth rydym yn ei charu ac yn ei hedmygu.
"Bwriad y gohebydd oedd gwneud y pwynt nad oedd gorfod neu ddewis astudio'n ddiweddarach yn Saesneg yn y brifysgol wedi rhoi disgybl dan anfantais car ôl cael ei addysgu yn Gymraeg.
"I'r gwrthwyneb, mewn gwirionedd. Mae'n ddrwg iawn gennym fod safbwynt arall wedi'i gyfleu."
Fe wnaeth yr erthygl arwain at ymateb chwyrn ar wefan Twitter, wrth i'r hashod '#DespiteBeingTaughtInWelsh' ddod yn boblogaidd.
Roedd yn un o'r pynciau mwyaf poblogaidd ledled y DU ar y wefan am y rhan fwyaf o ddydd Sadwrn.
Bu gwleidyddion fel Rhun ap Iorwerth a Jonathan Edwards, ynghyd â'r darlledwr Jason Mohammad a'r digrifwr Elis James, yn defnyddio'r hashnod i feirniadu'r cwmni.