Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol ar ôl disgyn o glogwyn
- Published
image copyrightGeograph/Kev Griffin
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben wedi iddo ddisgyn 12m (40 troedfedd) o glogwyn ym Mro Morgannwg.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 08:40 fore Sadwrn wedi i'r dyn ddisgyn ger pentref Y Rhws.
Fe gafodd ei hedfan mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.