Lori yn cario gwair wedi bod ar dân ger tollau Pont Hafren
- Cyhoeddwyd
Lluniau hofrennydd o'r mwg
Bu lori yn cario gwair ar dân ger tollau Pont Hafren ar yr M4 ddydd Sul gan achosi oedi.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei fod wedi derbyn galwad am y digwyddiad am 12:47.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, a bu'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad tra bo traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Yn ôl tyst, roedd ffrwydrad bach ac bu ciwiau ger y tollau o ganlyniad.