'Cyflogau isel a lles uchel' yn Abertawe a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe a Chasnewydd ymysg y dinasoedd sydd ag economïau "cyflogau isel a lles uchel", yn ôl melin drafod, neu 'think tank'.
Dywedodd y Ganolfan Dinasoedd, er bod miliwn o swyddi wedi eu creu yn ninasoedd y DU rhwng 2010 a 2014, fe wnaeth cyflogau ostwng 5%.
O'r 62 o ddinasoedd dan sylw, roedd Abertawe yn y pedwerydd safle o ran gwariant ar les.
Yn 2014, £441 oedd y cyflog wythnosol ar gyfartaledd yng Nghasnewydd, gyda £3,798 y flwyddyn yn cael ei wario ar les ar gyfer pob person.
Ffigyrau Abertawe oedd £448 a £3,976.
Ledled Prydain, y cyflog wythnosol ar gyfartaledd oedd £504, gyda £3,358 y flwyddyn wedi'i wario ar les ar gyfer pob person.
Cyflog wythnosol Caerdydd ar gyfartaledd oedd £482 - 23ain allan o 62 - gyda gwariant blynyddol ar les o £3,222 y pen.
Cytundebau dinesig
Daw'r adroddiad wrth i'r Canghellor, George Osborne, barhau i annog cytundebau dinesig.
Mae deg awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru wedi cyflwyno cais ar y cyd ar gyfer cytundeb dinesig ar gyfer ardal Caerdydd.
Mae gweinidogion Cymru eisoes wedi addo £580m tuag at y cytundeb, gyda chynghorau yn cyfrannu £120m.
Ynghyd â £580m gan y Trysorlys, byddai'r cytundeb gwerth bron i £1.3bn.
Mae'r economydd cymdeithasol, Dr Mark Lang, wedi bod yn feirniadol o bolisïau gytundebau dinesig yn y gorffennol, gan ddweud nad yw'r llewyrch yn rhai dinasoedd yn golygu ffyniant i rai eraill.
Dywedodd y dylai buddsoddiad yn hytrach gael ei ganolbwyntio ar ardaloedd fel y cymoedd i sicrhau bod cyfoeth yn cael ei rannu.
"Rwy'n meddwl bod y dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gaerdydd," meddai awdur yr adroddiad, Paul Swinney.
"Rydyn ni'n gweld bod ganddi economi cryf ac mae llawer o bobl fedrus yn byw ac yn gweithio yno.
"Ond rwy'n meddwl mai'r her i Gasnewydd ac Abertawe yw eu bod yn tueddu i fod ag economïau llai medrus, a'u bod nhw wedi cael eu taro'n reit wael gan y cwymp mewn gwariant cyhoeddus."