Uwch Gynghrair Lloegr: Everton 1-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cyfnod Francesco Guidolin fel prif hyfforddwr Abertawe wedi dechrau gyda buddugoliaeth bwysig yn Everton.
Fe welodd yr Eidalwr berfformiad gwell gan yr Elyrch, aeth ar y blaen o'r smotyn wrth i Gylfi Sigurdsson sgorio wedi i Andre Ayew gael ei faglu yn y cwrt cosbi.
Llwyddodd Everton i'w gwneud hi'n gyfartal ychydig funudau'n ddiweddarach wrth i Jack Cork droi'r bêl i mewn i'w rwyd ei hun.
Ond fe wnaeth ergyd Ayew ennill y gêm i'r ymwelwyr, wrth iddyn nhw symud pedwar pwynt o safleoedd y cwymp.
Dyma fuddugoliaeth gyntaf Abertawe dros Everton yn y gynghrair, ond yn bwysicach, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ennill dwy gêm yn olynol yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma.