Canolfan ymchwil newydd £7.5m i Bort Talbot
- Cyhoeddwyd

Bydd canolfan ymchwil peirianneg newydd gwerth £7.5m ym Mhort Talbot yn hwb i dyfiant ar ôl "ergyd ddifrifol" colli cannoedd o swyddi dur, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones y bydd gwaith ar safle newydd Canolfan Technoleg TWI ym Mharc Busnes Glannau'r Harbwr yn dechrau'n fuan.
Bydd yn cynnal ymchwil mewn sectorau fel awyrofod, electroneg ac ynni niwclear ac adnewyddadwy.
Bydd y cynllun, sy'n cael ei ariannu gan arian yr Undeb Ewropeaidd, yn creu 16 o swyddi.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth cwmni dur Tata gyhoeddi y byddai dros 1,000 o swyddi yn cael eu colli.
Port Talbot fydd yn colli'r rhan fwyaf o'r swyddi, gyda disgwyl i 750 ddiflannu yno.
Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n falch y gallwn ni ddod a thyfiant a swyddi newydd o sgiliau uchel i Bort Talbot ar ôl yr ergyd difrifol i'r gymuned yr wythnos diwethaf."