Galw am gyhoeddi Adolygiad Macur i ymchwiliad o gam-drin

  • Cyhoeddwyd
Adolygiad Macur
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddechreuodd yr adolygiad annibynnol i ymchwiliad Waterhouse yn 2013

Mae'r NSPCC wedi ymuno â'r galw cynyddol i gyhoeddi adolygiad i ymchwiliad o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth Ustus Macur ddechrau cymryd tystiolaeth yn 2013 i ymchwiliad Waterhouse, gafodd ei gyhoeddi yn 2000.

Roedd hwnnw'n canolbwyntio ar gamdriniaeth plant mewn gofal rhwng 1974 ac 1996.

Cafodd Adolygiad Macur ei gyflwyno i Lywodraeth y DU fis diwethaf, ond mae gweinidog wedi dweud ei bod yn bosib y bydd angen ei ail-olygu.

Mae'r adolygiad, gafodd ei gomisiynu yn 2012, yn chwilio os wnaeth yr ymchwiliad fethu ag ystyried honiadau unrhyw blentyn.

'Siomedig iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran NSPCC Cymru: "Mae hi'n siomedig iawn ei bod hi wedi cymryd dros bedair blynedd yn barod i gyrraedd y pwynt yma, a does dim awgrym bod hyn am ddod i ben yn fuan."

Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, ei bod yn hanfodol bod yr adolygiad "yn cael ei wneud ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus ac er tryloywder".

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth AS Wrecsam, Ian Lucas, alw am "amserlen glir" ar gyhoeddiad y darganfyddiadau.

Fe wnaeth AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, godi'r mater yn y Senedd eto'r wythnos diwethaf.

Ail-olygu

Yn ymateb, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Caroline Dinenage: "Rhaid i'r adroddiad gael ei ystyried gan yr heddlu a'r llywodraeth cyn y gall gael ei gyhoeddi.

"Mae hyn yn cynnwys ystyried os oes angen ei ail-olygu.

"Mae Ustus Macur wedi awgrymu y dylai rhai rhannau gael eu hystyried i gael eu hail-olygu.

"Mae'r gwaith yn parhau yn gyflym, gyda'r gobaith o gyhoeddi cyn gynted â phosib."