BBC Cymru Fyw

Cwpan Pencampwyr Ewrop: Caerwysg 33-17 Gweilch

Published
image copyrightGetty Images
Mae'r Gweilch allan o Cwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl iddyn nhw gael eu trechu gan Gaerwysg yn eu gêm olaf yng Ngrŵp 2.
Roedd y tîm cartref yn llawn haeddu buddugoliaeth pwynt bonws dros y Gweilch, deithiodd i Ddyfnaint ar dop y grŵp.
Ond fe wnaeth buddugoliaeth Bordeaux-Begles dros Clermont helpu Caerwysg i orffen ar dop y grŵp a mynd trwodd i rownd yr wyth olaf, wrth i'r Gweilch orffen yn y trydydd safle.
Fe wnaeth Thomas Waldrom a James Short sgorio dau gais yr un i'r tîm cartref, gyda Kai Horstmann hefyd yn croesi, tra bo ceisiau'r Gweilch wedi dod trwy Hanno Dirksen a chais gosb.