Adran addysg cyngor Merthyr allan o fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth

Mae mesurau arbennig wedi cael eu codi oddi ar ysgolion Cyngor Merthyr Tudful.

Mae adran addysg y cyngor wedi bod dan y mesurau yn dilyn pryderon yn 2012 bod safonau yn cael effaith ar ddisgyblion.

Dywedodd arolygwyr Estyn bod "cynnydd digonol" wedi'i wneud.

Y cyngor yw'r olaf o chwech yng Nghymru i gael eu cymryd allan o fesurau arbennig wedi i Gyngor Torfaen dderbyn yr un newyddion ddydd Gwener.

Er y cynnydd, dywedodd Estyn bod rhaid i bresenoldeb wella a bod angen i ysgolion sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion plant sydd â thrafferthion addysgol.

Dywedwyd wrth yr adran addysg bod rhaid iddyn nhw wella mewn wyth man gafodd eu hamlygu mewn arolwg yn 2012.