Bandiau bwyd ceiswyr lloches Caerdydd i 'ddod i ben'

  • Cyhoeddwyd
bandFfynhonnell y llun, BBC@markhutchings/twitter
Disgrifiad o’r llun,
Sooria, o Sri Lanka, yn gwisgo ei fand er mwyn casglu bwyd yn Lynx House ddydd Llun

Mae disgwyl i bolisi sy'n gorfodi ceiswyr lloches yng Nghaerdydd i wisgo bandiau coch ar eu harddyrnau er mwyn cael bwyd ddod i ben.

Mae cwmni preifat sy'n gweithio i'r Swyddfa Gartref wedi gorfodi'r bobl hynny sy'n aros yn Lynx House yn y brifddinas i'w gwisgo er mwyn hawlio prydau.

Dywedodd yr AS Llafur lleol, Jo Stevens, ei bod ar ddeall y bydd y polisi yn dod i ben ddydd Llun.

Mae rhai o'r ceiswyr lloches yn honni bod y bandiau wedi tynnu sylw at eu sefyllfa, gyda hynny'n arwain at rai ohonyn nhw'n cael eu cam-drin yn eiriol ar y stryd.

'Dychrynllyd'

Yn ôl Ms Stevens, AS Canol Caerdydd, mae hi wedi bod mewn cysylltiad gyda Clearsprings - y cwmni sydd wedi ei gontractio gan y Swyddfa Gartref i gynnal y gwasanaethau llety yn y brifddinas.

Mae gan y drefn oblygiadau "dychrynllyd", meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, gan fynnu bod rhaid i'r polisi ddod i ben.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod "cwestiynau difrifol" i'r Swyddfa Gartref.

Herio'r drefn

Yn gynharach, fe ddywedodd un ffoadur, Eric Ngalle, wrth BBC Cymru ei fod wedi aros am bron i ddeufis yn Lynx House.

Fe geisiodd herio'r drefn o wisgo'r bandiau meddai, ond doedd methu newid y polisi.

Roedd ar ddeall mai'r Swyddfa Gartref oedd wedi rhoi'r cyfarwyddyd, ond nad oedd y ceiswyr lloches yn credu'r eglurhad.

Nifer wedi 'cynyddu'

Dywedodd Clearsprings wrth bapur newydd The Guardian ei fod wedi cyflwyno'r polisi gan fod mwy o geiswyr lloches yno erbyn hyn.

"Mae'r nifer o bobl mewn llety ar safleoedd, gan gynnwys Caerdydd, wedi cynyddu'n gyflym," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Mae Clearsprings wedi cymryd camau a gytunwyd gyda'r Swyddfa Gartref, i gynyddu'r ddarpariaeth drwy roi llety hunan arlwyo ychwanegol.

"Mae'r gwesteion yn yr uned hunan arlwyo yn derbyn lwfans drwy docynnau bwyd mewn archfarchnadoedd ac mae'r rheiny mewn llety llawn yn cael bandiau lliwgar sydd ddim â logo, nac yn disgrifio ei ddefnydd na'i darddiad.

"Mae'n rhaid i westeion llety llawn ddangos eu bandiau er mwyn derbyn prydau bwyd yn y tŷ bwyta."