Carwyn Jones yn amddiffyn polisi ffioedd myfyrwyr
- Cyhoeddwyd

Mae Carwyn Jones wedi amddiffyn sylwadau'r gweinidog addysg y byddai Llafur yn parhau i dalu ffioedd prifysgol myfyrwyr o Gymru.
Dywedodd Huw Lewis na fyddai'r polisi yn dod i ben pe bai'r blaid mewn grym ar ôl etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai.
Ond yn ôl y prif weinidog, mae'n bwysig nad yw myfyrwyr yn gadael y brifysgol "gyda dyled fawr".
Daeth ei sylwadau wedi i'r Ceidwadwyr Cymreig ddisgrifio'r polisi fel "gimic anghyfrifol ac anghynaladwy".
'Sefyllfa waeth' yn Lloegr
Wrth siarad ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Carwyn Jones: "Mae'n rhaid i ni gofio dau beth. Yn gyntaf mae'r Torïaid yng Nghymru dim ond yn dilyn beth bynnag mae'r Torïaid yn Lloegr yn ei wneud a does dim byd gwahanol rhwng y ddwy blaid.
"Na i gyd maen nhw'n wneud yw'n gwmws yr un peth ag y mae Lloegr yn ei wneud. Dydyn ni ddim wedi gwneud hynna.
"Ni'n credu bod e'n bwysig dros ben bod myfyrwyr yng Nghymru ddim yn gadael y brifysgol gyda dyled fawr. Ni'n gwybod fod myfyrwyr yn Lloegr 20% mewn sefyllfa gwaeth na myfyrwyr Cymru a da ni ddim am wneud hynna i fyfyrwyr Cymru."
Roedd Huw Lewis wedi dweud dros y penwythnos ei bod yn bosib y bydd rhaid i fyfyrwyr gael eu hasesu cyn derbyn ffioedd.
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr Cymru yn talu £3,685 tuag at eu ffioedd dysgu, lle bynnag maen nhw'n astudio yn y DU.
Llywodraeth Cymru sy'n talu'r gweddill, sef hyd at £5,315 y flwyddyn.
'Cadw at yr egwyddor'
Dywedodd Mr Lewis wrth raglen Sunday Politics Wales bod Llafur Cymru wedi ymroi i'r egwyddor y dylai myfyrwyr o Gymru fod â'r hawl i astudio ble bynnag maen nhw eisiau yn y DU.
Ond gwrthododd gadarnhau a fyddai'r cymhorthdal ar gael i bob myfyriwr - sef y sefyllfa ar hyn o bryd.
"Bydd yn rhaid aros i weld be mae'r maniffesto yn ei ddweud am hynny," meddai.
"Rwy'n credu mai'r brif egwyddor ddylai fod - y byddwn ni yn buddsoddi yn eich uchelgais fel person ifanc, ac ni fyddwn yn cyfyngu ar eich uchelgeisiau, yn enwedig pan maen fater o ddaearyddiaeth.
"Pe bai chi'n credu y bydd o fwy o fudd i chi dros y ffin, neu yn Yr Alban neu Ogledd Iwerddon mae hynny'n iawn. Byddwn yn cadw at yr egwyddor honno."
Arolwg
Ond mae prifysgolion wedi dadlau ers tro bod cymorthdaliadau o'r fath yn golygu bod degau o filiynau o bunnoedd yn gadael y sector addysg uwch yng Nghymru, ac yn mynd i Loegr.
Y llynedd, dywedodd pennaeth y corff sy'n gyfrifol am ddosbarthu arian i brifysgolion Cymru bod angen i'r llywodraeth newid y ffordd mae'n cyllido myfyrwyr o Gymru - a hynny er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn ymddangos rhwng prifysgolion Lloegr a Chymru.
Yn 2013 fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu bod gan y corff sy'n cynrychioli prifysgolion yma bryderon eu bod ar eu colled o'i gymharu â phrifysgolion yn Lloegr, a hynny oherwydd y cymorthdaliadau ffioedd.
Ym mis Tachwedd 2013, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi arolwg o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr.
Bydd cadeirydd yr arolwg, yr Athro Ian Diamond, yn cyhoeddi rhai o'i gasgliadau yn ddiweddarach, ac mae disgwyl i'r arolwg llawn gael ei gyhoeddi ar ôl etholiad y Cynulliad ym mis Mai.