Mwy na 1,000 o dai heb drydan oherwydd y tywydd
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na 1,100 o dai yn y gogledd, gorllewin a'r de wedi bod heb drydan wrth i'r tywydd garw barhau.
Roedd glaw trwm a gwyntoedd ar gyflymder o hyd at 80mya.
Am 16:00 dywedodd Western Power Distribution fod y cyflenwad wedi ei adfer yn y rhan fwya o 450 o dai tra oedd 700 heb drydan yn y de-orllewin.
Castell Newydd Emlyn gafodd ei tharo waethaf ble oedd 250 o gartrefi heb gyflenwad.
Roedd tua 124 o dai heb drydan ym mhentref Tymbl ger Llanelli yn Sir Gaerfyrddin wedi i goeden syrthio yn erbyn llinellau trydan.
Mae'r tywydd wedi effeithio ar ychydig o dai yng Nghastell Nedd, Merthyr Tudful a Chaerdydd.
Ynghynt dywedodd cwmni Scottish Power fod tai yn Nhŷ Croes, Ynys Môn, a Bethesda, Gwynedd wedi colli cyflenwad trydan fore Mawrth.
Glaw trwm
Roedd Trenau Arriva Cymru wedi trydar bod y lein rhwng Pwllheli a Chricieth ar gau oherwydd llifogydd.
Erbyn hyn, mae wedi ailagor.
Roedd Network Rail wedi dweud y byddai trenau rhwng Caer a Chaergybi'n arafach oherwydd gwyntoedd cryfion.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am law trwm iawn yn y rhan fwyaf o Gymru dros y dyddiau nesaf.
Fe fydd y rhybudd yn parhau mewn grym tan 15:00 brynhawn Mercher.
Dyma fanylion y rhybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd rhybudd y byddai gwyntoedd cryfion o'r de neu'r de-orllewin, gan hyrddio'n gryf iawn ar adegau, yn enwedig ar hyd arfordir Môr Iwerddon a thir uchel.
Roedd disgwyl i'r glaw gwaethaf ddisgyn yn hwyr nos Fawrth a bore Mercher.
Risg o lifogydd
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod risg o lifogydd ac y gallai teithwyr wynebu trafferthion dros y cyfnod i gyd.
Fe allai 50mm o law ddisgyn mewn sawl ardal a hyd at 100mm ar dir uchel.
Dim ond Sir y Fflint a Wrecsam fyddai'n osgoi'r tywydd garw, yn ôl y rhybudd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai rhybudd arall am law trwm ddydd Gwener.