Llys: Dyn 'yn erbyn eithafiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Kaleem Brekke
Disgrifiad o’r llun,
Kristen Brekke o Gaerdydd yw un o'r dynion sydd gerbron y llys

Mae dyn o Gaerdydd, sy'n cael ei gyhuddo o helpu cyfaill i deithio i Syria i ymladd gyda'i frawd gyda therfysgwyr Islamaidd, wedi dweud wrth Lys yr Old Bailey ei fod yn gwrthwynebu eithafiaeth yn llwyr.

Mae Kristen Brekke, ynghyd â dau ddyn arall, wedi'u cyhuddo o gynorthwyo Aseel Muthana i gyflawni gweithred derfysgol.

Mae Mr Brekke hefyd yn cael ei adnabod fel Mohammed Kaleem.

Roedd brawd Aseel, Nasser Muthana, wedi teithio i Syria yn barod ac wedi ymddangos mewn fideo gan IS.

Ar ddiwrnod cyntaf ei amddiffyniad, dywedodd Brekke ei fod wedi dod yn Fwslim tra'n ddisgybl yn Ysgol Fitzalan yng Nghaerdydd, ac wedi datgan ei ffydd mewn mosg yn y ddinas.

Dywedodd wrth y llys fod y mosg yna yn erbyn eithafiaeth yn llwyr.

Clywodd y llys fod Brekke wedi cwrdd â Muthana yn 2012 pan oedd y ddau'n gweithio mewn caffi gyda'i gilydd.

Dywedodd wrth y rheithgor bod dillad milwrol a gafodd eu darganfod yn ei gartref yn berchen iddo fe ac nid wedi'u prynu ar gyfer Aseel, a bod cais am basport ar ei gyfer ei hun hefyd, nid Aseel.

Mae'r erlyniad yn honni bod Brekke wedi prynu dillad milwrol i Aseel Muthana a bod un o'r ddau ddyn arall sydd wedi'u cyhuddo - Forhad Rahman - wedi talu i Muthana deithio o Gaerdydd i faes awyr Gatwick, ac wedi talu am ei daith awyren i Gyprus ac yna ymlaen i Syria drwy Dwrci.

Mae'r tri dyn yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Aseel Muthana deithio i Syria ym mis Chwefror