Marwolaeth A40: Cyhoeddi enw dyn 23 oed
- Published
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn 23 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.
Roedd Daniel James Cobain o ardal Caerfyrddin.
Aeth car Mini oddi ar y ffordd ger Bancyfelin rhywbryd rhwng 17:30 nos Sadwrn a 00:40 fore Sul.
Nid yw'n glir pryd yn union ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Ionawr 2016