Y Seintiau Newydd: Gollwng gorchymyn dirwyn i ben
- Cyhoeddwyd

Mae gorchymyn dirwyn i ben gafodd ei gyflwyno i bencampwyr Uwchgynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, wedi ei ollwng.
Fe wnaeth y clwb o Groesoswallt ymddangos ar restr dirwyn i ben gafodd ei chlywed yn yr Uchel Lys yn Llundain.
Wrth gynrychioli'r clwb, dywedodd James Kinman bod hwn yn "glwb pêl-droed llwyddiannus" wnaeth ennill Uwchgynghrair Cymru yn ddiweddar.
Ychwanegodd bod dyled o £6,000 wedi ei thalu gan y clwb, ac nad oedd y clwb yn ymwybodol o'r gorchymyn tan ddydd Gwener.
Yn dilyn trafodaethau rhwng y clwb a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, cafodd y gorchymyn ei ollwng.
Bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi hefyd yn gorfod talu'r costau i'r clwb fynd i'r llys.
Wedi'r gwrandawiad, dywedodd Ian Williams, Prif Swyddog Gweithredol y Seintiau: "Mae'r clwb, yn dilyn buddugoliaeth yn y gwpan {Cwpan Word} ddydd Sadwrn, nawr yn canolbwyntio ar faterion ar y cae ac eisiau sicrhau partneriaid bod y clwb mewn sefyllfa ariannol iach iawn wrth geisio amddiffyn ein teitl yn Uwchgynghrair Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2016