Cariad at deip
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi bod cariad dynes o Sir Benfro at ei mamwlad a'i hiaith wedi rhoi'r Gymraeg ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron y byd ar un adeg?
Dyma stori Geraldine Banes, y ffontiau byd-enwog greodd hi, a pham roddodd hi enwau Cymraeg iddyn nhw.
Mae ffontiau yn rhywbeth bron yn anweledig i ddefnyddwyr cyfrifiaduron erbyn hyn. Mae pawb sy'n defnyddio prosesydd geiriau'n gyfarwydd gyda dewis Arial, Times New Roman neu Calibri wrth ysgrifennu dogfen. Ond ar ddechrau'r 90au roedd ymdrech fawr i roi dewis o ffontiau safonol ar gyfer cyfrifiaduron cartref oedd mewn cyfnod o dwf aruthrol.
Roedd Geraldine Banes, a gafodd ei magu yn Nhyddewi, yn dylunio ffontiau ar gyfer y cwmni Monotype yn Redhill, Surrey. Ar yr un adeg roedd cwmni meddalwedd Microsoft yn chwilio am set o ffontiau fyddai'n gweithio i bawb ar eu system Windows 3.1.
"Dim ond rhai ohonom ni gymrodd at y dechnoleg, a gallu newid picselau ar y sgrin i gynrychioli nodau arferai gael eu dylunio â llaw," meddai.
"Roedden ni'n gyfrifol am wneud ffontiau craidd Windows 3.1 ac roeddwn i'n gyfrifol am y cod tu ôl i'r ffontiau Arial Regular, Courier Regular, Courier Italic, a Times Italic. Roedd gennym ni'r sgiliau dylunio nad oedd gan y technolegwyr yn Microsoft."
'Sylfaen', y ffont ar gyfer ieithoedd y byd
Cafodd y ffontiau craidd hyn eu defnyddio ledled y byd a'u ehangu i gynnwys ieithoedd a gwyddorau eraill fel Syrilig, Groeg, Thai, a Hebraeg a'r Gymraeg. Bydd llawer yn cofio bod trafferthion mawr gyda gosod toeon bach ar lafariaid Cymraeg ar y systemau cynnar hyn.
I ddatrys hyn gweithiodd Geraldine ar ffont newydd ar gyfer Windows ym 1998 gan ei alw'n Sylfaen. Ond sut daeth hi iddo gael enw Cymraeg?
"Ro'n i'n gweithio arno gyda gŵr o'r enw John Hudson, o Tiro Typeworks, ac fe ddes i wybod bod yntau wedi cael magwraeth Gymraeg nes roedd yn wyth oed."
"Yn aml, fi oedd yn cael y dasg o enwi ffontiau ac felly oherwydd fy nghefndir Cymraeg roeddwn i eisiau rhoi enwau Cymraeg iddyn nhw. Fe benderfynais enwi'r ffont yn 'Sylfaen' am ei fod yn gweithio fel sylfaen i lawer o ieithoedd y byd."
Cariadings
Parhaodd Geraldine i weithio i Microsoft ar ffontiau Windows gan gyfrannu at y ffont addurniadol Webdings (gyda Vincent Connare, creawdwr Comic Sans) ac yn nes mlaen roedd yn reolwr prosiect ar gasgliad newydd o ffontiau dan yr enw Cleartype - Calibri, Cambria ac ati - sydd yn parhau i gael eu defnyddio ar Windows hyd heddiw.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe greodd hi ffont addurniadol newydd i fynd yn lle Webdings ac fe greodd hi ffont Cariadings, gan ddefnyddio planhigion fel ei phrif ysbrydoliaeth.
Dywedodd Geraldine ei bod "yn caru gwneud ffontiau bach fel yna". Roedd Cariadings yn barod i fynd ar Windows ledled y byd gyda'r teulu ffontiau Cleartype ond cafodd ei dynnu o'r pecyn cyn cyhoeddi. Ond ni ddiflannodd Cariadings, gan ei fod yn dal i fod ar werth gan sawl cwmni ffontiau.
Ond sut daeth Geraldine, y ferch o Sir Benfro, i gyrraedd un o'r swyddi oedd yn dylunio ffontiau mwyaf y byd? Dylanwad ei hathro cynradd Mr. Walters yn Ysgol Ramadeg Dewi Sant, Tyddewi, wnaeth y gwahaniaeth meddai hi:
"Fe ddysgodd mewn ffordd hen-ffasiwn mewn rhai ffyrdd, hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Roedd yn dysgu caligraffeg, arlunio technegol a phensaernïaeth. Dyna'r rheswm y des i i weithio mewn cwmni teipograffeg. Roedd o'n athro rhyfeddol."
Trawiad calon yn newid byd
Bu raid iddi wneud newid bywyd llwyr o'i gwaith gyda Microsoft wedi iddi ddioddef o drawiad ar y galon ddifrifol fu bron yn farwol. Wedi'r ysgytwad hyn daeth yn ymwybodol bod rhaid newid ei bywyd a dysgodd ragor am iechyd cyflenwol.
Mae Geraldine nawr yn byw yn Sammamish, ger Seattle, ac yn rhedeg canolfan iechyd a lles gyflenwol o'r enw Studio Beju. Mae hi'n parhau i fod yn greadigol gan baentio planhigion a byd natur.