Mae'n brifo!
- Cyhoeddwyd
A dyma ni wedi cyrraedd gêm olaf pencampwriaeth chwe gwlad dra siomedig, wrth i Cymru wynebu'r Eidal. Ni fydd y capten, Sam Warburton, yn chwarae, yn dilyn anaf yn y gêm yn ystod y Saeson.
Er fod disgwyl i'r Cymry ennill y gêm hon yn gymharol hawdd, rhaid cofio mai yn y gêm yn erbyn yr Eidalwyr y llynedd, wythnosau cyn dechrau Cwpan y Byd, cafodd Leigh Halfpenny a Rhys Webb anafiadau cas. Bydd rhaid iddyn nhw fod yn ofalus, felly, yn erbyn y gleision...
Wrth gwrs, mae anafiadau yn hynod gyffredin mewn gemau rygbi, ond ydych chi'n hollol gyfarwydd â'r eirfa Gymraeg mae sylwebwyr yn eu defnyddio am rannau o'r corff? Dyma help llaw i chi:
(RHYBUDD: Gall un o'r lluniau isod beri gofid...)
-
Cyfergyd – Concussion
×Mae cyfergyd yn cael ei achosi gan ergyd i’r pen, ac mae’n gallu achosi cur pen, teimlo’n sâl neu weithiau gall y chwaraewr fynd yn anymwybodol.
Cafodd Jamie Roberts ei anafu pan darodd ei ben yn erbyn pen capten Awstralia, Stirling Mortlock yn 2008. Parhaodd Jamie i chwarae am 16 munud arall, er ei fod yn diodde’ o gyfergyd. Pan aeth i’r ysbyty, darganfuwyd fod ganddo grac yn ei benglog.
-
Clust colifflŵar/dew – Cauliflower ear
×Pan mae clustiau yn cael eu taro yn aml, mae gwaed a hylif yn dechrau casglu ar dop y glust, gan ei gwneud yn dew, ac yn ddi-siâp. Mae chwaraewyr rygbi a bocswyr yn aml â chlustiau fel hyn. Mae’n debyg fod modd defnyddio gelen (leech) i sugno’r gwaed o’r glust a lleihau’r chwydd.
Dydy clustiau chwaraewyr presennol Cymru ddim rhy ddrwg ar y cyfan oherwydd bod nifer yn gwisgo capiau, ond mae gan Samson Lee a Paul James flodfresych bach yn dechrau datblygu...
-
Pont yr ysgwydd - Collarbone
×Mae torri pont yr ysgwydd yn eithaf cyffredin mewn gêm rygbi, wrth i lawer o bwysau gael ei roi ar ysgwyddau’r chwaraewyr.
Cafodd Barry John ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1968, ond yn anffodus, torrodd bont ei ysgwydd a daeth ei daith i ben ar ôl dim ond un gêm brawf. Roedd yn ôl yn y garfan yn 1971, gan ennill y nifer fwyaf o bwyntiau i’r tîm a sicrhau buddugoliaeth i'r Llewod - yr unig garfan i guro'r Crysau Duon gartref.
-
Cesail y forddwyd - Groin
×Gall anaf i gesail y forddwyd, sef rhwygo un o’r cyhyrau sy’n helpu i symud y goes, fod yn hynod o boenus.
Ym mis Medi 2005, cafodd Shane Williams lawdriniaeth i wella anaf i gesail y forddwyd. Yn ffodus, roedd yn ôl ar y cae erbyn gemau’r Hydref, ac roedd cais ganddo yn y gêm yn erbyn Awstralia yn allweddol i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y Wallabies ers 1987.
-
Datgymalu bysedd - Finger dislocation
×Mae yna lawer o rannau o’r corff all ddatgymalu mewn gêm rygbi, ond y mwyaf cyffredin yw’r bysedd, wrth i’r bêl daro yn eu herbyn, neu wrth iddyn nhw cael eu sathru gan rhyw brop mawr.
Yn 2007 mewn gêm yn erbyn De Affrica, rhedodd James Hook i ochr y cae i gael rhywun i osod ei fys yn ôl i’w le, ac yna cario ‘mlaen â’r gêm. Wrth chwarae gyda Gleision Caerdydd, datgymalodd Sam Warburton ei fys yn 2012, a rhannu’r llun o’i anaf â’r byd ar Twitter.
-
Llinyn y gar - Hamstring
×Anaf i linyn y gar yw straen neu rwyg i’r gewynnau/tendonau ar gefn y clun. Roedd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd yn frith o anafiadau – ac anaf i linyn y gar achosodd i Eli Walker a Cory Allen fethu cymryd rhan yn y bencampwriaeth.
-
Tennyn croesffurf y ben-glin - ACL (Anterior cruciate ligament)
×Mae’r tennyn croesffurf tu ôl i badell y ben-glin (kneecap) ac yn sefydlogi’r cymal.
Dyma’r anaf dorrodd galonnau cefnogwyr Cymru pan frifodd Leigh Halfpenny ei ben-glin yn y gêm yn erbyn yr Eidal, bythefnos cyn dechrau Cwpan y Byd. Doedd Jonathan Davies chwaith ddim digon iach i chwarae yn y bencampwriaeth, a hynny oherwydd yr un anaf.
-
Croth/Bola y goes - Calf
×Mae anaf i groth neu fola y goes yn gyffredin iawn ymhlith chwaraewyr rygbi, yn arbennig o ganlyniad i neidio neu newid cyfeiriad yn gyflym.
Yn 2010, cafodd Gethin Jenkins anaf i groth ei goes, oedd yn golygu na allodd chwarae yng ngemau prawf Cymru yn erbyn De Affrica a Seland Newydd ym mis Mehefin 2010. Mae wedi bod yn broblem gyson i’r prop ers hynny.
-
Gweyllen y ffêr – Achilles tendon
×Gall gormod o rym arno achosi i weyllen y ffêr rwygo. Dyma beth ddigwyddodd i Samson Lee yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd. Yn ffodus, llwyddodd i adfer ei ffitrwydd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.