Cyngor Môn i ymgynghori ar safle sipsiwn a theithwyr

  • Cyhoeddwyd
carafan
Disgrifiad o’r llun,
Dywed rhai sy'n erbyn y cynllun fod y safle yn anaddas ar gyfer gwersyll i deithwyr

Mae Cyngor Môn wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau dadleuol i sefydlu safle swyddogol i sipsiwn a theithwyr ar yr ynys wedi'r cyfan.

Mewn cyfarfod cyhoeddus nos Wener roedd 'na wrthwynebiad chwyrn i'r cynlluniau, a nifer yn cwyno nad oedd 'na broses ymgynghori wedi'i chynnal ar y mater.

Mae'r safle sy'n cael ei ffafrio ar y brif ffordd rhwng Pont Menai a Phentraeth. Roedd rhai wedi cyhuddo'r awdurdod o geisio cyflwyno'r cynlluniau "mewn modd llechwraidd".

Yng nghyfarfod y cyngor ddydd Llun, cyhoeddodd yr arweinydd, y Cynghorydd Ieuan Williams, y byddai yna oedi cyn penderfynu ar y safle nawr, er mwyn i ymgynghoriad fynd rhagddo.

Meddai'r Cynghorydd Williams yn y siambr: "Roeddwn i a'r prif weithredwr yn y cyfarfod nos Wener ac roedd 'na lawer o sylw i'r ffaith nad oedden ni wedi ymgynghori. Mae ymgynghori yn rhan annatod o bopeth 'da ni'n gwneud sy'n cael effaith ar ein cymunedau.

"Allwn ni ddim gwneud penderfyniad heb ymgynghori a chael adborth gan y gymuned, felly fyddwn ni ddim yn trafod hyn heddiw [dydd Llun]."

'Y drefn gywir'

Ychwanegodd ei fod yn mynd i ofyn i swyddogion wneud gwaith pellach ar y cynlluniau.

"Mae'n bwysig fod 'na ymgynghoriad, ac mae hynny angen digwydd ar frys. Ond o leia' mae'n golygu ein bod ni'n gwneud pethau yn y drefn gywir, a dyna'r ffordd ymlaen.

"Rydyn ni'n dweud nad ydy pethau wedi'u gwneud yn y ffordd iawn a 'da ni eisiau cywiro hynny. Dydy'r wybodaeth ddim ganddon ni i wneud penderfyniad iawn ar hyn o bryd."

Bydd asesiad o'r angen am safle i deithwyr ar Ynys Môn yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor gweithredol fis nesa' a bydd yr ymgynghoriad yn dilyn hynny.

Daeth dros 50 o bobl i'r cyfarfod cyhoeddus yn Llandegfan nos Wener i drafod eu pryderon am y bwriad i sefydlu'r gwersyll cyntaf o'i fath ar yr ynys.

Mae'n ofynnol i bob sir yng Nghymru ddarparu cynllun ar gyfer safleoedd teithwyr - a bod y cynlluniau hynny yn cael eu gweithredu erbyn mis Mawrth.

Ond mae nifer o bobl leol yn gwrthwynebu'r cynllun ger yr A5025 ble mae cartref answyddogol wedi bod i rai teuluoedd ers pedair blynedd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r safle rhwng Pentraeth a Phorthaethwy wedi bod yn gartref answyddogol i rai teuluoedd ers pedair blynedd