BBC Cymru Fyw

Anrhrydedd i gyn gapten rygbi Cymru

Published
image copyrightGetty Images
image captionRyan Jones yn dathlu'r Gamp Lawn yn 2012
Fe fydd cyn gapten rygbi Cymru, Ryan Jones, yn derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ddydd Mawrth.
Yn ystod ei yrfa enillodd y cyn chwaraewr rheng ôl 75 o gapiau dros ei wlad, gan ennill tair Camp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fydd cyn chwaraewr y Gweilch yn derbyn Gradd MSC yn y gwyddorau.
Cyhoeddodd Jones, sy'n wreiddiol o Gasnewydd, ei fod yn ymddeol o'r gêm y llynedd.
Mae'n cael ei anrhydeddu yn yr un wythnos â'r dyfarnwr rygbi, Nigel Owens.
Fe wnaeth Owens, o Fynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin, dderbyn LLD (Doethur mewn Cyfraith) gan Goleg y Gyfraith ddydd Llun,