Amrywiaeth yn safon addysg mewn ysgolion yn parhau
- Cyhoeddwyd

Mae safon y dysgu yn ysgolion Cymru yn dal i amrywio, yn ôl adroddiad blynyddol Estyn.
Roedd yr adroddiad yn edrych ar y flwyddyn academaidd 2014-15 a buon nhw'n arolygu 227 (17%) o ysgolion cynradd a 37 (18%) o ysgolion uwchradd.
Ond nododd yr adroddiad hefyd fod yna enghreifftiau o welliannau mewn rhai meysydd.
Er hynny, dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, fod yna wahaniaeth rhwng y darparwyr addysg gorau a'r rhai gwanaf.
Ond mae'n dweud nad y ffactorau economaidd yw'r ffactor bwysicaf wrth edrych ar y sefyllfa, gan fod rhai o'r ysgolion a chanolfannau dysgu gorau mewn ardaloedd difreintiedig.
Cynnydd
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod yna arwyddion o gynnydd mewn meysydd fel llythrennedd a rhifeg, ymddygiad a phresenoldeb a chefnogi disgyblion neu fyfyrwyr bregus.
Ac mae'r ffigyrau yn dangos bod mwy o ysgolion cynradd wedi llwyddo i ragori mewn rhyw elfen o'u gwaith. 8% o ysgolion cynradd oedd yn cyrraedd y safon yma bum mlynedd yn ôl, 18% ydy'r canran eleni. Mewn ysgolion uwchradd mae'r canran hefyd ar i fyny - o 23% bum mlynedd yn ôl i 38% eleni.
Dywedodd Mr Rowlands: "Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr ysgolion gorau a'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd.
"I gau'r bwlch gyda'r goreuon, mae angen i ysgolion barhau i ganolbwyntio ar y pethau sylfaenol, a hefyd edrych o'r newydd ar brofiadau addysgu a dysgu - beth sy'n cael ei addysgu, a sut mae'n cael ei addysgu a'i asesu.
"Mae angen i athrawon ac arweinwyr ddefnyddio'u dychymyg yn yr ystafell ddosbarth a chroesawu'r her i rannu a dysgu gan y goreuon."
Dywed yr adroddiad bod yna amheuon a oedd arferion da yn cael eu rhannu, yn ogystal â chwestiynau ynglŷn â faint o help mae ysgolion yn cael pan maen nhw angen gwella.
Mae yna esiamplau o ysgolion sy'n gwneud gwaith da yn yr adroddiad, gan gynnwys Ysgol yr Esgob Gore, sy'n paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed, sydd wedi defnyddio drama i gysylltu â disgyblion ar elfen emosiynol.