UKIP: Ffrae ynglŷn â rhestr ymgeiswyr

Nathan Gill Image copyright Getty Images
Image caption Nathan Gill

Mae BBC Cymru yn deall bod corff rheoli UKIP wedi methu unwaith yn rhagor a chymeradwyo rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r cynulliad ym mis Mai.

Fe wnaeth Pwyllgor Gwaith y blaid gwrdd ddydd Gwener am yr eildro mewn pythefnos er mwyn trafod y sefyllfa.

Y blaid yng Nghymru sy'n gyfrifol am ddewis y rhestr ymgeiswyr, ond mae'n rhaid i'r rhestr hono dderbyn sêl bendith y Pwyllgor Gwaith.

Mae rhai o fewn y blaid yng Nghymru yn poeni fod UKIP yn ganolog am ddewis ymgeiswyr - gan gynnwys y cyn aelod seneddol Ceidwadol Neil Hamilton.

Dywedodd un ffynhonnell amlwg o fewn UKIP wrth BBC Cymru fod y Pwyllgor Gwaith yn mynd ben ben a Nathan Gill, arweinydd y Blaid yng Nghrymu, ac yn gwrthod rhoi eu sêl bendith.

Gwrthododd Neil Hamilton a gwneud unrhyw sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP mai'r nod yw sicrhau bod yr ymgeiswyr gorau yn cael eu dewis.