Heddwas yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A55
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A55 ger Llanfairfechan nos Lun.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau fod gwrthdrawiad wedi bod rhwng pedwar cerbyd oedd yn cynnwys car heddlu, a hynny rhwng cyffyrdd 14 a 15 tua'r dwyrain.
Fe gafodd swyddog o Heddlu Gogledd Cymru ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol, ac mae'n parhau i fod yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod byr.
Fe gafodd dyn 21 oed ei arestio wedi'r gwrthdrawiad. Mae'r dyn bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â swyddogion yn yr Uned Plismona'r Ffyrdd ar 101.