Marwolaeth lori: Cwmni'n pledio'n euog
- Cyhoeddwyd

Mae achos llys yn erbyn cwmni oedd yn cyflogi dyn fu farw ar ôl cael ei daro gan gar y tu allan i'w weithle yn 2011 wedi dod i ben yn fuan.
Roedd disgwyl i'r achos yn erbyn cwmni Arkenfield Stable Hire Ltd yn Llys y Goron yr Wyddgrug bara wythnos, ond fe blediodd y cwmni'n euog ddydd Mawrth.
Plediodd y cwmni'n euog i fethu a sicrhau iechyd, diogelwch a lles gweithiwr drwy fethu a sicrhau system ddiogel o weithio mewn cysylltiad â cherbydau'n cyrraedd, parcio a gadael eu safle.
Roedd rheolwr cyffredinol y cwmni Phillip Sutton wedi gwadu honiad tebyg, ond fe wnaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch oedd yn erlyn yr achos ollwng y cyhuddiad yn ei erbyn ac fe'i cafwyd yn ddi-euog yn ffurfiol.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry y byddai'n dedfrydu'r cwmni ddydd Mercher.
Cafodd yr achos ei gynnal yn dilyn marwolaeth Philip Ledward, 62 oed, wedi i gar ei daro ger mynedfa gwaith Garej Boundary ar ffordd yr A495 rhwng Whitchurch a Ffordd Ellsmere ar 17 Tachwedd, 2011.
Roedd Mr Ledward, oedd yn fecanydd peirianau trwm, yn un o dri gweithiwr oedd wedi mynd i helpu lori wrth iddi yrru am yn ôl i mewn i'r safle.
Roedd dau weithiwr arall yn rhybuddio gyrrwyr eraill tra bod Mr Ledward yn sefyll ger drws gyrrwr y lori, Anthony Jackson, pan gafodd ei daro gan gar.