498 o fodurwyr wedi yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
yfed a gyrruFfynhonnell y llun, PA

Cafodd bron i 500 o fodurwyr eu dal yn yfed a gyrru yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig, yn ôl ffigyrau.

Dangosodd ystadegau bod 22,811 wedi cael prawf anadl yn ystod ymgyrch heddluoedd ym mis Rhagfyr, bron 8,000 yn llai na 2015.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gynnal 8,894 o brofion, y nifer fwyaf yng Nghymru, gyda 82 o brofion positif o'u cymharu â 76 y llynedd.

Bachgen 16 oed oedd y person ieuengaf i gael ei arestio am yfed a gyrru gan heddlu'r gogledd.

Cafodd 99 o fodurwyr eu harestio am gymryd cyffuriau, gyda 26 o'r rheiny yn y de, 21 yng Ngwent, 35 yn y gogledd a 17 yn ardal Dyfed Powys,

'Cymryd risg'

Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd ein hymgyrch yn canolbwyntio ar atal yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau ond, yn anffodus, fe welsom fod rhai yn parhau i beryglu bywydau eu hunain a bywydau eraill drwy wneud hynny.

"Mae'n braf cael dweud fod llai wedi cael eu dal ond mae nifer fawr yn parhau i gymryd y risg."

Cafodd 22,811 o yrwyr brawf anadl yng Nghymru yn ystod y mis a dyma'r manylion:

De Cymru - 4,409 o brofion; 205 yn bositif

Gwent - 1,130 o brofion; 47 yn bositif

Gogledd Cymru - 8,894 o brofion; 82 yn bositif

Dyfed-Powys - 8,378 o brofion; 164 yn bositif.