ACau'n pleidleisio'n erbyn Mesur Undebau Llafur

  • Cyhoeddwyd
streic

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Prydain i gyfyngu ar reolau streicio o fewn y sector cyhoeddus.

Gwrthwynebodd y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol y cyfyngiadau newydd ar gynnal streic.

Ond does dim grym cyfreithiol i ganlyniad y bleidlais yn erbyn y Mesur Undebau Llafur.

Mae Llywodraeth Prydain a Chymru'n anghytuno ar yr angen am ganiatâd y Cynulliad cyn cyflwyno'r rheolau newydd i'r sector gyhoeddus yng Nghymru.

Cyfyngiadau llymach

Yn unol a'r mesur newydd, byddai angen i o leiaf hanner aelodau undeb gymryd rhan mewn pleidlais cyn y byddai modd cynnal streic.

O fewn gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg a'r gwasanaeth tân, byddai angen i 40% o aelodau undeb bleidleisio o blaid streic cyn y byddai modd gweithredu'n ddiwydiannol.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai'r Mesur fod yn berthnasol i holl wledydd Prydain, ond mae gweinidogion Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen caniatâd gan y Cynulliad.

Ddydd Mawrth, pleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn erbyn cymeradwyo'r mesur.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Leighton Andrews fod gan Gymru record dda wrth ddatrys anghydfodau.

Mae Llafur wedi dweud y byddan nhw'n ceisio gwrthroi'r mesur os bydd Llywodraeth Prydain yn anwybyddu pleidlais y Cynulliad a bwrw mlaen a'r cynlluniau. Os byddan nhw mewn grym wedi etholiadau'r cynulliad Fis Mai, byddai Llafur yn cyflwyno'i deddfwriaeth ei hun i ddiddymu'r Mesur.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: "Yng Nghymru, mae gyda ni record dda wrth ddatrys anghydfodau.

"Ni chafwyd streic meddygon iau yng Nghymru. Roedd yna un yn Lloegr. Fe weithredodd ymladdwyr tân yn Lloegr yn ddiwydiannol oherwydd pensiwn. Wnaethon nhw ddim o hynny yng Nghymru.

"Rydym yn credu y bydd y Mesur Undebau Llafur yn arwain at berthynas gythryblus rhwng cyflogwyr a'r gweithlu."

Disgrifiad o’r llun,
Mynegodd Andrew RT Davies bryderon am weithredoedd rhai arweinwyr undeb.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, ei fod yn cefnogi rôl yr undebau llafur wrth gefnogi'u haelodau.

Ond, wrth gyfeirio at ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, dywedodd: "Wna i ddim cefnogi Len McCluskey a'i griw yn eich defnyddio chi (ASau Llafur) i wireddu eu huchelgais."

Ychwanegodd: "Fe fyddwn i'n awgrymu bod yna anghysondeb pan fo ysgrifenyddion cyffredinol undebau'n dewis gwireddu eu breuddwydion gwleidyddol ar draul eu haelodau, ac yn amlwg, dyw hynny ddim yn dderbyniol."