Leyton Orient 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Colli wnaeth Casnewydd yn erbyn Leyton Orient nos Fawrth wedi i Jay Simpson sgorio gôl gosb i'r tîm cartref yn hwyr yn y gêm.
Cafodd y gic gosb ei rhoi wedi i Darren Jones ddod â Jobi McAnuff i lawr yn y cwrt cosbi.
Er gwaethaf perfformiad dewr ar y cyfan, mae Casnewydd yn parhau'n ugeinfed yn yr adran.