Braintree 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam yn parhau'n ddegfed yn y tabl ar ôl colli oddi cartref yn Braintree.
Sicrhaodd Braintree'r triphwynt wrth i Taylor Miles sgorio gôl wych o gic rydd ar ôl 74 munud.
Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i Wrecsam wrth i Mark Carrington gael ei anfon o'r maes ar ôl 82 munud am ail gerdyn melyn.