Bwrw ymlaen gyda'r Mesur Undebau Llafur meddai San Steffan
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud y byddan nhw yn bwrw ymlaen gyda deddfwriaeth i gyfyngu ar reolau streicio o fewn y sector cyhoeddus.
Yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth mi bleidleisiodd y blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn y ddeddfwriaeth gan olygu bod y Cynulliad ddim yn rhoi sêl bendith i ddarnau o'r Mesur Undebau Llafur.
Mae'n golygu bod yna wahaniaeth safbwynt rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan ac mi allai'r mater gael ei drafod yn y llys.
Mi oedd yna addewid ym maniffesto y blaid Geidwadol i dynhau'r rheolau ynglŷn â phryd mae unedau yn medru trefnu streiciau.
Herio yn y llys?
Er nad yw mater cyflogaeth wedi ei ddatganoli mae'r gwasanaethau allai gael eu heffeithio fel addysg ag iechyd wedi eu datganoli i Gymru.
Ond does yna ddim grym cyfreithiol i'r bleidlais yn y Cynulliad. Ac mae adran fusnes Llywodraeth Prydain wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i newid y ddeddfwriaeth.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud os y bydd Llafur yn ennill etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai y bydd y blaid yn cyhoeddi deddfwriaeth i drio diddymu darnau o'r mesur.
Byddai hi wedyn yn fater i Lywodraeth San Steffan i herio hyn yn y Goruchaf Lys os y bydden nhw yn dymuno meddai.