Chwaraewr rygbi wedi ei wahardd ar ôl cymryd cocên
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr rygbi undeb wedi ei wahardd rhag cymryd rhan yn y gêm am ddwy flynedd ar ôl iddo brofi yn bositif i gymryd cocên.
Roedd Shaun Cleary yn fachwr gyda Maesteg Harlequins RFC a fydd o ddim yn medru chwarae unrhyw chwaraeon am ddwy flynedd.
Yn dilyn gêm gyfeillgar ym mis Awst, cafodd Shaun Cleary brawf cyffuriau ac roedd cocên yn ei waed.
Yn ôl y corff UK Anti Doping roedd Mr Cleary wedi cymryd y cyffur dri diwrnod cyn iddo chwarae ond roedd cocên dal yn ei system yn ystod y gêm.