Plant ifanc heb 'sgiliau sylfaenol' wrth ddechrau'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon fel "gweithwyr cymdeithasol", meddai Owen Hathway o NUT Cymru
Mae nifer cynyddol o blant ifanc yn dechrau ysgol heb sgiliau sylfaenol bywyd gyda hynny'n cyfyngu ar amser athrawon i ddysgu, yn ôl undeb.
Mae staff yn dweud bod mwy a mwy o ddisgyblion yn mynd i ddosbarthiadau yn eu clytiau ac yn methu defnyddio'r tŷ bach, meddai NUT Cymru.
Canlyniad hynny ydi "effaith negyddol" ar allu athrawon i ddysgu "er lles" gweddill y plant, ychwanegodd yr undeb athrawon.
"Ry'n ni wedi gweld athrawon bron yn dechrau bod yn rhyw fath o weithwyr cymdeithasol, yn delio gyda phroblemau sgiliau sylfaenol," meddai swyddog polisi'r NUT, Owen Hathway.
"Ry'n ni'n gweld bod angen i athrawon, wrth gwrs, gydweithio gyda rhieni ar rhai adegau ar gyfer y pethau yma.
"Ond mae hyn yn digwydd mwy a mwy ar hyn o bryd ble mae angen i athrawon gamu mewn i sefyllfa, efallai, sydd wedi cael ei chreu gan doriadau i'r gwasanaeth lles a'r gefnogaeth ariannol mae rhieni'n cael."
Targedau
Fe all hyn gael effaith ar gyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion, meddai'r NUT.
Mae'r undeb yn credu ei bod yn anodd i bob plentyn gyrraedd yr un targedau pan mae ysgolion mewn sefyllfaoedd gwahanol o ran derbyn disgyblion newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod plant yn barod i ddechrau yn yr ysgol, gan gyfeirio at raglenni sydd eu lle.
"Mae'r rhain yn cynnwys Rhaglen Dechrau'n Deg, ehangu ar raglen Grant Amddifadedd Disgyblion i blant 3-4 oed a'r ymgyrch mae addysg yn dechrau yn y cartref sy'n annog rhieni i gymryd rhan yn addysg eu plentyn," meddai llefarydd ar ei rhan.
"Mae athrawon yn y Cyfnod Sylfaen yn cael eu cefnogi gan gynorthwywyr dysgu ac mae cyllid yn ei le i sicrhau bod y gymhareb o ddisgyblion i oedolion yn isel."
'Y Sgwrs', S4C, 21:30 ddydd Mercher 27 Ionawr