Maes Awyr Caerdydd 'yn werth £20m-£30m' ac nid £52m
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o "wastraffu" miliynau o bunnau ar brynu Maes Awyr Caerdydd yn dilyn amcangyfrif bod ei werth gwreiddiol tua hanner y pris a dalwyd.
Bu cyngor gan gyfrifwyr KPMG bod ei werth masnachol rhwng £20m a £30m cyn iddo gael ei werthu i'r llywodraeth am £52m yn 2013.
Daw'r amcangyfrif yn rhan o adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan Swyddfa Archwilio Cymru ddydd Mercher.
Ond mae'r ffigyrau yn "gamarweiniol" meddai'r llywodraeth.
£52m
Fe gyhuddodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y blaid Lafur o "wastraffu" miliynau o bunnau, gan ddweud bod "methiant syfrdanol" i warchod arian y trethdalwyr.
Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei werthu gan ei gyn-berchnogion, TBI o Sbaen, wedi blynyddoedd o bryder am ei berfformiad.
Daeth amcancyfrif KPMG ychydig fisoedd cyn i'r llywodraeth brynu'r maes awyr.
Ond mae BBC Cymru yn deall bod cynnig o £41m wedi ei wneud am y maes awyr gan y llywodraeth, ar ôl ystyried ei werth masnachol ac economaidd.
Ar ôl comisiynu gwaith pellach gan yr ymgynghorwyr peirianyddol ARUP, cafodd cynnig pellach o £55m ei wneud, cyn i gynnig o £52m gael ei dderbyn.
Ar y pryd, fe wnaeth prif weithredwr Maes Awyr Bryste, Robert Sinclair, honni bod y pris yn llawer uwch na'r gwerth masnachol o'i gymharu â chytundebau diweddar yn ymwneud a meysydd awyr.
'Camarweiniol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r BBC wedi defnyddio ffigyrau o adroddiad 80 o dudalennau i awgrymu'n anghywir fod Llywodraeth Cymru wedi talu mwy nag y dylai er mwyn prynu'r maes awyr.
"Mae hyn yn gamarweiniol. Fe wnaeth KPMG fraslun o nifer o senarios gwahanol yn ystod y broses. Canlyniad hyn oedd bod y gwerth yn amrywio gan ddibynnu ar y gost cyflafaf a ddefnyddwyd i ddod i'r swm."
Ychwanegodd y llefarydd bod y pris o £55m yn "rhesymol" o safbwynt masnachol.
"Mae gwerth yr ased o £472m hefyd yn cyfiawnhau'r pris a dalwyd ar sail ariannol," meddai'r llefarydd.
"Nid ydym yn rhagweld y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn herio hyn pan fydd yn cael ei gyhoeddi."