Ambiwlansys: Cyrraedd targed galwadau coch

  • Cyhoeddwyd
ambiwlans

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cyrraedd targed i ymateb i'r galwadau mwyaf brys am y trydydd mis yn olynol.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 72.4% o alwadau coch wedi cael ymateb o fewn wyth munud.

Dyma'r trydydd mis o beilot i brofi newidiadau i'r gwasanaeth a'r ffordd y mae ambiwlansys yn ymateb i gleifion.

Y targed yw bod 65% o alwadau coch yn cael ymateb o fewn wyth munud.

Targed

Ym mis Tachwedd, cafodd 71% o alwadau coch ymateb o fewn wyth munud.

O'r holl alwadau gafodd y gwasanaeth ambiwlans ym mis Rhagfyr, roedd 1,927 (5%) yn rhai coch - sy'n golygu "perygl i fywyd".

O'r rhain, cafodd 37.3% o gleifion ymateb o fewn pedwar munud.

Cafodd dros 90% o alwadau coch ymateb o fewn 15 munud, ond roedd rhaid i saith claf aros am dros 30 munud.