Tu ôl i'r tîm: Adam Beard
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw wedi cael cipolwg ar waith rhai o aelodau pwysicaf tîm rygbi Cymru.
Na, nid y chwaraewyr, ond y swyddogion sy'n gweithio'n galed tu ôl i'r llenni i geisio sicrhau llwyddiant i wŷr Warren Gatland ar y cae.
Adam Beard oedd pennaeth perfformiad corfforol Undeb Rygbi Cymru adeg yma'r llynedd. Mae bellach wedi gadael y swydd ar ôl ymuno gyda ymuno gyda Cleveland Browns yn yr NFL.
Ddeuddeg mis yn ôl, soniodd wrth Cymru Fyw am ei baratoadau cyn gêm ryngwladol:
Y gwersyll ymarfer
Mae'r dydd yn dechrau yn gynnar yn y Ganolfan Rhagoriaeth Genedlaethol (neu'r 'barn' fel mae'n cael ei alw), ac mae'r offer ar y safle yn cael eu defnyddio, yn cynnwys y siambrau uchder a cryotherapy.
Ar ôl sesiwn gyntaf y dydd mae'r chwaraewyr yn cerdded y siwrne fer i'r gwesty. Yn 'stafell y tîm, mae'r chwaraewyr yn cael sesiwn fonitro'r bore gyda'n gwyddonydd chwaraeon, Ryan Chambers. Mae Ryan yn cofnodi'u pwysau, tymer, safon cwsg ac unrhyw boenau neu symptomau sydd ganddyn nhw.
Mae'r wybodaeth yma yn cael ei dadansoddi a'i rhoi i mi cyn y cyfarfodydd boreuol a'r timau hyfforddi a meddygol. Mae'r cyfarfodydd yn caniatáu rheolwyr y garfan i adolygu'r wybodaeth ddiweddaraf a phenderfynu ar amserlen y dydd.
Be sydd i frecwast?
Mae brecwast y chwaraewyr yn cynnwys amrywiaeth o smŵddis, uwd a bwyd poeth, gyda chogydd ar gael i goginio omlet. Mae maethegwr y sgwad, Jon Williams, yn goruchwylio pob pryd ac mae'n sicrhau fod y bwyd drwy gydol y dydd yn addas ar gyfer anghenion unigryw pob chwaraewr.
Yn dilyn brecwast, rydw i, Huw Bennett, John Ashby (yr is-hyfforddwyr cryfder a chyflyru) a Ryan yn mynd i'r caeau neu'r barn i osod popeth ar gyfer sesiwn y bore, yn unol â'r cynlluniau.
Bore 'ma, roedd cymysgedd o weithgareddau ffitrwydd, pwysau a sgiliau, felly cafodd llwyth gwaith amrywiol ei baratoi cyn i'r garfan ddechrau arni am 10:00.
Erbyn hanner dydd, mae'r sesiynau wedi dod i ben, felly maen nhw'n cael rownd arall o cryotherapy cyn cinio. Mae'r sesiynau yn y siambr wedi eu cynllunio i helpu i'r chwaraewyr wella, gan eu caniatáu i allu hyfforddi yn amlach drwy gydol y dydd.
Cofnodi a dadansoddi
Ar ôl cinio, mae sesiwn y prynhawn ar y cae, gyda'r blaenwyr a'r olwyr yn dod at ei gilydd am sesiwn byr, dwys ar y cyd.
Yn ystod y cyfnod hyfforddi mae ffigurau am lwyth hyfforddi y chwaraewyr yn cael eu cofnodi a'u dadansoddi. Rydw i'n derbyn y wybodaeth yma ac mae'n ffurfio rhan o'r adolygiad dyddiol â'r tîm hyfforddi pan fyddwn ni'n dod ynghyd i drafod y garfan a sesiynau unigol.
Mae hi'n amser swper i'r garfan am 18.30 ac eto mae dewis helaeth o fwyd o safon uchel wedi ei baratoi gan ein cogyddion yng ngwesty'r Vale, yn ôl gofynion [y maethegwr] Jon.
Unwaith ddaw swper a'r cyfarfodydd adolygu i ben, mae cyfle i ddarllen e-byst a gwneud hyn a'r llall, cyn i'r holl beth ddechrau eto'r diwrnod nesa'!
Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2015.