Rhagor o docynnau ar gael i gefnogwyr Cymru

tocynnau pel-droed Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael gwybod gan UEFA y bydd 4,177 o docynnau'n ychwanegol ar gael i gefnogwyr Cymru ar gyfer gemau grŵp pencampwriaeth Euro 2016.

Mae 52,160 o geisiadau am docynnau wedi eu gwneud trwy borth tocynnau Cymru ar UEFA.com, oedd ar gael i gefnogwyr "aur". Roedd y gymdeithas felly'n awyddus i geisio sicrhau rhagor o docynnau i gefnogwyr oedd eisiau gwylio'r gemau.

Mae hyn yn golygu fod nifer y tocynnau sydd ar gael i gefnogwyr Cymru ar gyfer gemau grwp B wedi codi o 17,000 i 21,177.

Y tocynnau fydd ar gael ar gyfer gemau grwp Cymru yn Ffrainc:

11/6/16 - Cymru v Slofacia (Bordeaux) - 8969

16/6/16 - Lloegr v Cymru (Lens) - 5202

20/6/16 - Rwsia v Cymru (Tolouse) - 7002

Yn ychwanegol i'r niferoedd uchod, mae modd i unrhyw gefnogwr Cymru, sydd ddim yn aelod o'r gymdeithas bêl-droed, wneud cais am docynnau i'r gemau grŵp trwy werthiant cyffredinol UEFA cyn Chwefror 1.