Graddio ysgolion: Y rhestr newydd

  • Cyhoeddwyd
ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau system raddio holl ysgolion Cymru.

Dyma'r ail dro i'r system liwiau gael ei defnyddio, gyda phob ysgol yn cael gradd gan ddibynnu ar nifer o feini prawf.

Fe ddywed Llywodraeth Cymru bod 18 ysgol (cynradd neu uwchradd) wedi codi mwy nag un categori ar y rhestr.

O'r 1316 ysgol gynradd yng Nghymru mae 294 (22%) yn y categori gwyrdd a 32 (2%) yn y categori coch.

O'r 212 ysgol uwchradd yng Nghymru mae 39 (18%) yn y categori gwyrdd a 26 (12%) yn y categori coch.

Mae'r canlyniadau ar gael ar dudalen arbennig ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ysgolion categori gwyrdd yw'r goreuon ac yn cael eu disgrifio fel rhai "sy'n perfformio'n dda".

Mae ysgolion categori melyn yn cael eu hystyried yn "effeithiol".

Yn y categori oren mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr ysgolion "angen gwelliannau" tra bod ysgolion categori coch "angen gwelliannau mawr".

Bydd manylion yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Cefnogaeth

Wrth siarad am y canlyniadau categoreiddio diweddaraf, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: "Rydyn ni wedi cyflwyno System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion er mwyn cael gwybod pa ysgolion sydd â'r angen mwyaf o ran cael cefnogaeth, ac er mwyn inni allu asesu ysgolion ar eu perfformiad a'u gallu i wella.

"Mae'r system yn ein helpu i gael gwybod pa ysgolion sydd â'r angen mwyaf o ran cael cymorth, cefnogaeth ac arweiniad.

"Rydyn ni hefyd yn gallu dweud pa ysgolion sy'n gwneud yn dda ond a allai wneud yn well, a hefyd yr ysgolion sy'n perfformio'n dda ac a fyddai'n gallu helpu eraill i wella.

"Wrth sôn am gategoreiddio, nid sôn ydyn ni am dablau cynghrair moel na labelu ysgolion, ond yn hytrach am gyfeirio'r cymorth iawn i'r ysgolion perthnasol, gan sicrhau gwelliannau ar draws ein system ysgolion.

"Yn y pen draw, y nod yw codi safonau a helpu ein hysgolion i hunanwella.

"Mae hon hefyd yn system sy'n gweithredu er lles yr holl ddysgwyr. Ni all ysgolion ddibynnu ar berfformiad eu myfyrwyr gorau.

"Os yw ysgol yn perfformio o dan y safon ofynnol gymeradwy mewn perthynas â'i disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ni allwn ei rhoi yn y categori gwyrdd."

Ymateb

Fe wnaeth David Evans, ysgrifennydd undeb athrawon NUT Cymru groesawu'r canlyniadau, ond fe ddywedodd: "Ni ddylie ni wneud unrhyw feirniadaeth benodol ar sail y canlyniadau categoreiddio yn unig.

"Fe allai ysgolion yn y categori gwyrdd ddal fod angen cefnogaeth mewn rhai meysydd, tra bod addysgu gwych yn digwydd mewn rhai agweddau yn yr ysgolion hynny yn y categorïau melyn, oren a choch.

"Rhaid i ni edrych ar gategoreiddio fel rhan o fesur ehangach safon ysgolion, ac yn fwy penodol fel ffordd o adnabod pa fath o gefnogaeth sydd ei angen, yn hytrach na mecanwaith syml ar gyfer beirniadu."

Dywedodd Angela Burns A.C., Dirprwy Weinidog Addysg y Ceidwadwyr Cymreig: "Mewn llawer o ffyrdd, mae'r mesurau hyn yn dweud yr hyn yr ydym yn ei wybod yn barod, a'r hyn ddywedodd Estyn yn gynharach yr wythnos hon - fod y gagendor rhwng ysgolion sy'n gwneud yn dda a'r rhai sydd ddim yn rhy eang.

"Yn wir, mae perfformiad ysgolion uwchradd ar hyd Cymru'n parhau i fod yn bryderus o anghyson".

Fe wnaeth llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas A.C. alw ar weinidogion Llafur i roi'r cymorth sydd ei angen ar ysgolion sydd yn tanberfformio.

"Mae'n bryder bod rhai ysgolion sydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd angen cymorth y llynedd i'w gweld yn styfnig yn eu lle ac nid yn gwella, ac hefyd bod ysgolion eraill, hyd yn oed gyda chymorth, wedi gwaethygu", meddai.

Dywedodd Aled Roberts A.C., llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg fod y sefyllfa i ysgolion uwchradd yn llai positif nag ysgolion cynradd yn dilyn y canlyniadau.

"Mae'r system newydd yn sicr hyn welliant ar y sustem fandio ond nid yw'n dwyn i ystyriaeth y gwahaniaethau penodol o fewn ysgolion unigol, fe all band gwyrdd cyffredinol cuddio nifer o fethianau mewn adrannau unigol yn yr un ffordd ag y gall marc coch guddio enghreifftiau o waith gwych mewn ysgolion."