Cyffuriau: Gwahardd chwaraewr rygbi am bedair blynedd
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr ail-reng Maesteg, Ryan Watkins wedi cael ei wahardd gan Asiantaeth Gwrthgyffuriau'r DU.
Mae Watkins wedi ei wahardd am bedair blynedd ar ôl iddo gymryd y steroid nandrolone a'r cyfnerthydd methylhexaneamine.
Daw'r newyddion wedi i'w gyd-chwaraewr, Shaun Cleary gael ei wahardd am ddwy flynedd am ddefnyddio cocên.
Cafodd y ddau eu dal yn defnyddio'r sylweddau cyn gêm gyfeillgar yn erbyn Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gwaharddiadau diweddaraf yn golygu bod 12 chwaraewr o Gymru wedi eu gwahardd gan Asiantaeth Gwrthgyffuriau'r DU ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2016