Carchar am ddwyn £79,000 gan gleientiaid cyfreithiol
- Cyhoeddwyd

Mae ysgrifenyddes mewn cwmni cyfreithiol wnaeth ddwyn bron i £79,000 gan gleientiaid bregus wedi cael ei charcharu am ddwy flynedd a hanner.
Fe wnaeth Dianne Spragg, 48 oed o Gaerffili, ffugio 65 siec gan gwsmeriaid â phroblemau meddyliol yng nghwmni cyfreithiol Geldards yng Nghaerdydd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi gwario'r arian ar ddillad a dodrefn.
Fe gyfaddefodd Spragg i gyhuddiadau o dwyll a bod ag eiddo troseddol yn ei meddiant.
Collodd un dyn 76 oed £11,102 fel rhan o'r twyll, tra bo adeiladwr oedd wedi dioddef anaf difrifol i'w ben wedi colli £37,945.
Clywodd y llys hefyd ei bod wedi cymryd arian oedd wedi cael ei gasglu ar gyfer elusen canser Macmillan.
Mae'r holl bobl a gollodd arian oherwydd y twyll bellach wedi cael eu harian yn ôl gan Geldards.