Athrawes o Sir Benfro yn euog o addasu canlyniadau
- Cyhoeddwyd

Roedd Shan Harries yn gweithio yn Ysgol Gynradd Eglwyswrw
Mae panel wedi dod i'r casgliad bod athrawes o Sir Benfro yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi iddi addasu canlyniadau profion disgyblion.
Roedd Shan Harries, 47 oed, yn wynebu honiadau iddi newid canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Eglwyswrw ym mis Rhagfyr 2013 wedi i Estyn osod targedau newydd ar gyfer profion ysgrifenedig Cymraeg.
Casglodd ymchwiliad y cyngor bod 11 o ganlyniadau profion ysgrifenedig Cymraeg wedi eu newid.
Clywodd gwrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg bod y pennaeth wedi codi graddau disgyblion er nad oedd "unrhyw dystiolaeth" eu bod wedi cyrraedd y nod disgwyliedig.
Roedd Mrs Harries yn gwadu ymddygiad proffesiynol annerbyniol.