Ymgyrch i gofio morwyr o Japan gafodd eu claddu ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch ar droed i gofnodi bedd dienw mewn mynwent eglwys yn Sir Benfro sy'n cynnwys cyrff morwyr o Japan fu farw mewn ymosodiad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar 4 Hydref, 1918, fis cyn diwedd y rhyfel, suddodd un o longau llynges fasnachol Japan, yr Hirano Maru, ym Môr Iwerddon.
Dim ond 29 o'r 320 o deithwyr wnaeth oroesi'r ymosodiad gan long danfor U-boat o'r Almaen.
Cafodd cyrff y mwyafrif fu farw eu cludo gan y tonnau i arfordir Iwerddon, ond fe wnaeth 15 corff gael eu darganfod ar draethau yn Sir Benfro.
Mae David James sydd yn byw yn lleol yn gobeithio y caiff cofeb newydd ei chodi ger y bedd yn Eglwys Angle, gan fod y postyn pren gafodd ei osod yn wreiddiol i goffau'r meirwon wedi pydru.
'Y peth cywir'
Dywedodd Mr James: "Mae cofnod ar bob un o'r beddau hyn, ond mae'r postyn pren gafodd ei godi yn Angle i saith o'r dioddefwyr wedi pydru'n ddim.
"Fe allech chi ddweud fy mod yn cadw'r addewid yr wyf yn ei wneud pob Sul y Cofio - 'Yn Angof Ni Chânt Fod'. Rhain oedd ein cynghreiriaid, ac yn feibion, gŵyr a thadau i rywun.
"Fe ddylai fod cofnod yma. Rwy'n teimlo mai dyma yw'r peth cywir."
Dim ond un enw o restr y meirw sydd wedi ei gofnodi yng nghofnodion yr eglwys, sef Shiro Okoshi. Mae'r gweddill wedi eu cofnodi fel cyrff dienw.
Mae Mr James wedi cysylltu gyda Llysgenhadaeth Japan i godi'r mater, ac wedi cael cefnogaeth gan Uwch Gadfridog byddin Japan sydd wedi ymddeol yn Abertawe.
Mae Ken Matsui wedi dweud ei fod yn falch iawn o glywed fod pobl Sir Benfro am nodi'r golled i'w wlad bron i ganrif yn ôl.
"Fe wnaeth dros 40 o longau o Japan suddo neu ddioddef ymosodiadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf," meddai.
"Mae'r Hirano Maru yn enghraifft o bwys am ei bod wedi ei suddo mor agos i ddiwedd y rhyfel - a dim ond ychydig wythnosau wedyn fe wnaeth y llong danfor Almaeneg oedd wedi ei suddo ildio i luoedd Prydain."
Mae cynlluniau ar y gweill i gael cofeb newydd ger y bedd. Os bydd y cynllun yn cael ei wireddu yn Eglwys Santes Fair, mae Mr James yn dweud y bydd yn cynnig croeso rhyngwladol mewn gwasanaeth coffa arbennig.